Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
E&S(4)-08-11 papur 1

Ymchwiliad i Bolisi Ynni a Chynllunio yng Nghymru – Tystiolaeth ganSWALEC / SSE

Ymateb SWALEC / SSE i ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i bolisi a chynllunio ynni yng Nghymru

SWALEC oedd y prif gyflenwr trydan yn Ne Cymru cyn preifateiddio ac mae gan y cwmni dros ddeugain o flynyddoedd o ymrwymiad i Gymru. Heddiw, SSE a adnabuwyd yn gynt fel Scottish and Southern Energy, yw rhiant-gwmni SWALEC.

SSE yw’r cyflenwr ynni mwyaf ond un yn y DU, a’r cynhyrchydd mwyaf o ynni adnewyddadwy. Mae SSE yn seiliedig yn y DU ac yn cyflogi tua 20,000 o bobl yn y DU, a dylid nodi y cafwyd 5,000 o’r rheiny eu recriwtio dros y pum mlynedd diwethaf.

Dros y blynyddoedd diweddar mae SWALEC / SSE wedi bod yn cynyddu ei gweithgareddau yng Nghymru. Yn 2009 prynodd SSE gorsaf bŵer Aber-wysg yn agos at Gasnewydd, ac mae SSE yn ddiweddar wedi cael caniatâd i adeiladu gorsaf bŵer nwy sylweddol ym Maglan. Yn ogystal â hyn mae gan SSE uchelgais i adeiladu fferm wynt yng Nghanolbarth Cymru, er bod y prosiect hwn yn wynebu rhai anawsterau ar hyn o bryd. 

Mae SWALEC wedi cynyddu’r nifer o bobl a gyflogir yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar ac mae’r cwmni yn awr yn cyflogi dros 2,000 o bobl. Mae’r mwyafrif o’r rhain yn gweithio o ddau ganolfan yng Nghaerdydd sydd yn delio â chasgliadau a pherthnasau cyflenwi busnes i fusnes.  Dros y pedair blynedd diwethaf mae SWALEC wedi recriwtio dros 800 o aelodau newydd o staff yng Nghymru gan arddangos ein hymrwymiad i’r wlad.

Mae gan SWALEC gynlluniau i sefydlu Canolfan Ynni Smart (Smart Energy) yng Nghymru i ymddwyn fel canolfan weithredu a hyfforddiant ar gyfer ein tîm Gwasanaethau Cartref, ein braich Contractio, ein gwasanaeth Mesuro a sefydliad dau fusnes newydd yng Nghymru i ganolbwyntio ar ficrogynhyrchu ac Inswleiddiad Wal Solet. Gall hyn greu 250 o swyddi gwyrdd newydd â chyflogau da mewn ardal gydgyfeirio o Gymru, ond mae’n ddibynnol ar gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a phenderfyniad terfynol gan Fwrdd SSE.

Beth yw’r goblygiadau i Gymru pe bai’r cyfrifoldeb ar gyfer cydsynio prif brosiectau isadeiledd  ynni atraeth ac alltraeth yn aros yn fater i Lywodraeth y DU?

Mae’r UE wedi cyfrifo bod angen buddsoddi 1 triliwn Euro yn y sector dros y degawd nesaf er mwyn cwrdd â’r tair elfen o’r strategaeth Ewropeaidd i sicrhau diogelwch cyflenwi ynni, parchu targedau allyriadau carbon a diogelu awydd yr UE i gystadlu. Mae Llywodraeth y DU wedi cyfrifo y bydd angen gwario £200 biliwn yn y DU yn unig.

Mae mantolenni’r diwydiant ynni yn cael eu hymestyn yn barod; fodd bynnag, mae ein cwmni ni er enghraifft yn buddsoddi dros £1.5 biliwn y flwyddyn ar gynlluniau cynhyrchu. Fodd bynnag, gyda banciau yn llai parod i fenthyg, mae cyfleustodau yn dod yn fwy a mwy ymwybodol o’r angen i sicrhau eu bod yn buddsoddi yn y pethau iawn.

Mae nifer o lefydd ar draws y byd yn cystadlu ar gyfer y buddsoddiad hwn. Mae’r buddsoddiad felly yn fwy tebygol o fynd i ble y gall cwmnïau ddisgwyl fframwaith polisi syml a chyson. 

Mae gan SSE berthynas iachus iawn gyda’r Adran Newid Hinsawdd yn Llundain a’r IPC sydd ar hyn o bryd yn gyfrifol am ganiatáu prif isadeiledd ynni atraeth ac alltraeth. Dylid nodi bod ynni yn bortffolio cymhleth iawn ac iddi adnoddau da yn Llundain.

Mae profiad diweddar SSE o ran datblygiad ein fferm wynt arfaethedig yng Nghanolbarth Cymru wedi achosi llawer o bryder o fewn y cwmni gan fod canfyddiad bod y termau a drafodwyd yn flaenorol ar gyfer isadeiledd y grid yng Nghanolbarth Cymru gan Lywodraeth Cymru wedi eu newid.

Pe bai Llywodraeth Cymru yn dymuno cynyddu ei chyfrifoldebau sydd yn perthyn i ynni bydd angen arbenigedd ychwanegol sylweddol. Gall y lefel o arbenigedd technegol sydd angen o ran deall sut y mae isadeiledd grid yn gweithio a’r agweddau technegol o sut i gysylltu ffermydd gwynt er enghraifft, gyfiawnhau’r defnydd o gynghorwyr allanol. Mae’r adnoddau ar gyfer polisi ynni Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig iawn.

Er na fydd SSE yn gwneud sylwadau penodol ar faterion cyfansoddiadol, mae’n glir y bydd unrhyw newid yn gorfod cynnwys newid adnoddau o fewn Llywodraeth Cymru. Mae’n ymddangos o ddatganiadau diweddar gan Lywodraeth y DU bod newidiadau yn y dyfodol agos yn annhebygol. Mae’n hanfodol felly bod cydweithio a chytundeb agosach rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn ogystal â chysondeb yn y ffordd o ymdrîn â buddsoddiad ynni tymor canolog a hir dymor yng Nghymru. Heb hyn, mae’n debygol y bydd buddsoddiad ynni yng Nghymru yn lleihau.

Gydag isadeiledd ynni, mae cwmnïau yn buddsoddi dros gyfnodau o ugain mlynedd (o leiaf). Mae angen sicrwydd ar gyfer y math hwn o fuddsoddiad. Rhaid ystyried hyn wrth wneud unrhyw newidiadau o ran proses a chyfrifoldeb neu mae perygl o yrru buddsoddiad i ffwrdd o Gymru.

Sut y mae hyn yn effeithio ar gyflawni dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer ffurfiau amrywiol o ynni adnewyddadwy a charbon isel yn ôl y Datganiad Polisi Ynni?

Mae nifer helaeth o adnoddau sydd yn addas i’w defnyddio ar gyfer y pwrpas o gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Mae’r ddogfen Chwyldro Ynni Carbon Isel a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2011 yn arddangos hyn yn glir. Nid yw’r ddogfen hon fodd bynnag, yn ystyried y ffaith bod angen i’r cwmnïau sydd yn debygol o fuddsoddi wneud enillion masnachol ar eu buddsoddiad a bod cystadleuaeth ffyrnig ar gyfer y buddsoddiad hwn.

Nid oedd y dyheadau ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ystyried beth oedd yn digwydd ar hyd a lled y DU. Mae’r potensial ar gyfer cynhyrchu ynni tonnau a llanw er enghraifft, wedi’i osod yn uwch na tharged y DU, ac nid oedd yn ystyried y ffaith bod cyflwr y tonnau a’r llanw yn well yn yr Alban ar gyfer y math hwn o ddatblygiad, a hefyd bod cymhellion gwell i gwmnïau fuddsoddi yno.

Sut y mae hyn yn effeithio ar gyflawni targed Llywodraeth Cymru ar gyfer lleihad o 3 y cant y flwyddyn mewn allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr o 2011?

Mae’r lleihad arfaethedig mewn allyriadau Nwyon TŷGwydr yn gyfyngedig i feysydd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt.  Mae gan y Llywodraeth yr offer i wneud newidiadau mewn ysgolion, ysbytai a.a. a dylai’r prif ffocws fod ar effeithlonrwydd ynni. Nid oes unrhyw reswm pam na ddylai’r targedau hyn gael eu cyflawni, er y bydd menter talu-er-mwyn-arbed gyda ffocws gwell o bosib yn fwy priodol.

Gall Llywodraeth Cymru hefyd gymryd rôl mwy arweiniol o ran trafnidiaeth er enghraifft, drwy fynnu bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru sydd yn derbyn ariannu ar gyfer cerbydau yn sicrhau bod canran o’r cerbydau hyn yn drydanol. Pe bai hyn yn digwydd, gall Cymru gael ei sefydlu fel prif symudwr er mwyn adeiladu rhywfaint o ddiwydiant ac isadeiledd o’i chwmpas. Byddai’n lleihau allyriadau carbon o gerbydau’r sector cyhoeddus, yn lleihau’r arian sy’n cael ei wario ar betrol ac o bosib yn ysgogi diwydiant newydd yng Nghymru. 

Beth fydd yr effaith pe na chaiff penderfyniadau caniatâd ar brosiectau isadeiledd mawr a datblygiadau sy’n perthyn eu gwneud yn ôl polisi cynllunio Cymru?

Mae’n fwy cymhleth yn barod mewn rhai amgylchiadau i fuddsoddi yng Nghymru nag yn rhannau eraill o’r DU. Mae hyn oherwydd bod rhai agweddau o’r polisi cynllunio yn barod wedi eu datganoli i Gymru ac yna i awdurdodau lleol. Mae Cymru felly yn dal i reoli rhai agweddau o gynllunio sydd yn perthyn i ddatblygiadau isadeiledd mawr, tra bod yr IPC/DECC yn rheoli’r prif benderfyniadau caniatâd.

Arddangosir hyn orau drwy ein profiad diweddar i geisio datblygu fferm wynt yn Nant y Moch yng Nghanolbarth Cymru. Gellid torri lawr y cais cynllunio yn y ffordd ganlynol. Bydd angen cydsynio’r ceisiadau unigol i gyd er mwyn i’r prosiect barhau.

Prosiect                                      Cais gan                                       Corff Cydsynio

Fferm Wynt                                - SSE i gyflwyno                                  IPC

Gwifrau o fferm wynt i is-orsaf             - SSE i gyflwyno                                   IPC

Prif grid / gwifrau newydd          - Grid Cenedlaethol i gyflwyno              IPC

Is-orsaf                                               - Grid Cenedlaethol i gyflwyno              Awdurdod Lleol.

Yn Lloegr bydd hyn i gyd yn cael ei ystyried gan yr IPC, yn yr Alban bydd hyn i gyd yn cael ei ystyried gan Lywodraeth yr Alban. Yng Nghymru mae mecanweithiau mwy cymhleth sydd yn gallu arwain at ymdrîn â phethau mewn ffordd anghyson.

Byd datblygwyr yn y dyfodol yn amharod i fuddsoddi mewn gwlad ble mae brwydr gyfansoddiadol am ble ddylai’r pwerau orwedd yn cael ei hymladd ar eu prosiectau – gyda datblygwyr yn ei chanol.